Martin Tinney
Dydi celf yng Nghymru ddim yn cael yr un sylw â llenyddiaeth, cerddoriaeth na’r theatr, yn ôl perchennog un o orielau celf mwya’ llwyddiannus y wlad.
Ac un o’r rhesymau am hynny yw nad oes digon o feirniadaeth yn y wasg, yn ôl Martin Tinney sy’n dathlu chwarter canrif ers agor ei oriel yng Nghaerdydd.
“Mae angen mwy o werthuso beirniadol ar gelf, does neb yn dweud dim byd gwael amdano,” meddai wrth golwg360. “Ond mae beirniadaeth yn bwysig i roi hyder i artistiaid a chryfhau’r holl ddiwydiant.”
‘Siom’ wrth geisio dod o hyd i gelf
Daw Martin Tinney o Iwerddon yn wreiddiol gan symud i Gaerdydd i astudio a gweithio ym maes meddygaeth. Ond dywed iddo gael “siom” wrth geisio dod i adnabod y traddodiad celf yng Nghymru.
“Roeddwn i’n teimlo nad oedd unman i fynd i weld celf o ansawdd oedd yn arddangos yr holl draddodiad, ac roeddwn i’n disgwyl hynny mewn unrhyw brifddinas,” meddai. “Roedd llefydd oedd yn bod eisoes yn chwarae’n saff iawn…”
Am hynny, yn 1992, penderfynodd sefydlu oriel dan ei enw ei hun gan roi pwyslais ar hyrwyddo gwaith a gyrfa artistiaid yng Nghymru a thu hwnt.
Chwarter canrif
Mae Martin Tinney hefyd yn berchennog ar Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy ers chwe blynedd, a dywed fod traddodiad celf cryf yn yr ardal o ganlyniad i gysylltiadau Kyffin Williams a Wilf Roberts.
“Mae digon o artistiaid yng Nghymru, efallai nad yw pob un i fyny i’r safon, ond fydda’ i’n dod ar draws dau neu dri bob blwyddyn dw i eisiau eu cymryd ymlaen,” meddai gan ddweud y bydd yn cael tri neu bedwar cais y dydd i arddangos yn ei oriel.
Mae Shani Rhys James o Langadfan yn un sydd wedi arddangos gydag ef ers y cychwyn, a dywedodd ei fod yn falch hefyd o ddenu Gwilym Prichard a Claudia Williams yn ôl i Gymru.
“Roedden nhw’n byw yn Ffrainc, ac es i allan i’w cyfarfod ac arddangos eu gwaith, a dyma nhw’n penderfynu symud yn ôl i Gymru wedyn am eu bod nhw’n credu, am y tro cyntaf, fod modd gwneud bywoliaeth o gelf yng Nghymru.”
Y dyfodol
Er bod trafodaethau’n parhau am sefydlu Oriel Gelf Genedlaethol i Gymru, mae Martin Tinney yn amheus a fyddai digon o gyllideb ar gael i brynu a chynnal casgliadau.
Mae’n cydnabod fod angen oriel o’r fath am fod llawer o ddisgyblion ysgol yn ymweld â’i oriel i astudio artistiaid sydd ar y cwricwlwm.
“Dim amgueddfa ydyn ni, ond oriel fasnachol, ond does unman arall gyda’r grwpiau hyn i fynd,” meddai.
Dywed ei fod yn pryderu hefyd am ddyfodol orielau annibynnol gyda mwy o artistiaid yn gwerthu eu gwaith ar y we.
“Fe all unrhyw un gael gwefan ac oriel ar-lein nawr, ond rwy’n poeni nad oes elfen o feirniadaeth yn hynny chwaith, lle mae oriel yn dewis a dethol gweithiau. Ni wedi hen sefydlu erbyn hyn, ond byddwn i ddim yn hoffi bod yn oriel newydd nawr.”