Mae Llafur eisiau gwahardd hybsbysebion am fwydydd sothach cyn 9yh (Llun: Parth cyhoeddus)
Mae’r blaid Lafur am weld hysbysebion am fwydydd llawn braster a melysion yn cael eu gwahardd o raglenni teledu tan 9 o’r gloch y nos.

Daw hyn fel rhan o’u cynllun £250 miliwn cyn yr Etholiad Cyffredinol fis nesaf i fynd i’r afael â phroblemau iechyd gan fuddsoddi mewn mwy o nyrsys ysgol.

Mae hysbysebion am fwydydd yn llawn braster, halen neu siwgr wedi’u gwahardd yn barod o raglenni teledu plant.

Ond, mae’r blaid Lafur am fynd gam ymhellach â’u gwahardd o holl raglenni teledu tan 9yh.

Tlodi

Mae’r cynllun yn rhan o strategaeth i haneru’r nifer o blant dros bwysau o fewn deng mlynedd er mwyn arbed £6 biliwn o gostau am ordewdra i’r Gwasanaeth Iechyd.

“Fe ddylai fod yn gywilydd fod iechyd plentyn wedi’i gysylltu mor agos â thlodi,” meddai Jonathan Ashworth, llefarydd Llafur ar iechyd.

“Felly gyda chynnydd mewn tlodi plant, mae’r angen am weithredu yn fwy dwys,” ychwanegodd.

Ond mae’r Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Nicola Blackwood, o’r blaid geidwadol wedi dweud y byddai’r syniadau hyn yn mynd â chyllideb oddi wrth wasanaethau eraill.