Mae trychfilod yn cael eu bwyta eisoes mewn sawl gwlad (Takoradee CCA3.0)
Byddai bwyta pryfed yn hytrach na chig traddodiadol yn gwneud cyfraniad mawr tuag at daclo newid hinsawdd, yn ôl gwyddonwyr.
Mae gwaith ymchwil yn dangos byddain angen traean yn llai o dir ffermio pe bai pobol yn bywta 50% yn llai o gig ac yn bwyta criciaid a chynrhon yn lle hynny.
O ganlyniad, byddai llai o goed yn cael eu torri, llai o alw am wrtaith a llai o fethan yn cael ei ollwng gan warthog, meddai’r ymchwilwyr o Brifysgol Caeredin a Choleg Gwledig yr Alban.
A’u hateb i bobol a fyddai’n troi trwyn ar fwyta pryfed – eu cynnwys mewn bwydydd eraill,
Cig ffug
Wrth gymharu “cig ffug” wedi’i wneud o bryfed, cig wedi’i dyfu mewn labordy a chynnyrch soia – soia neu bryfed oedd y mwyaf ecogyfeillgar, yn ôl yr adroddiad.
Doedd cig wedi’i dyfu mewn labordy ddim yn fwy cynaliadwy na chyw iâr neu wyau o achos yr ynni sydd angen i’w gynhyrchu.
Byddai haneru cyfanswm y cig y mae’r byd yn ei fwyta drwy fwyta pryfed neu ffa soia yn rhyddhau 1.7 biliwn o hectarau o dir – tua 70 gwaith maint y Deyrnas Unedig, yn ôl y gwyddonwyr.
“Byddai cymysgedd o newidiadau bychan mewn ymddygiad pobol, fel bwyta cyw iâr yn lle cig eidion, lleihau gwastraff bwyd ac o bosib, cyflwyno pryfed i’n deiet, yn helpu i gyflawni arbedion tir a system fwyd mwy cynaliadwy,” meddai’r prif ymchwilydd, Dr Peter Alexander, o Brifysgol Caeredin.
Cafodd y canfyddiadau eu selio ar ddata Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig.