Mae Heddlu Llundain wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei drywanu i farwolaeth ar fws y ddinas.

Roedd Archie Sheppard yn 48 oed ac yn hanu o Neasden yng ngogledd-orllewin Llundain.

Yn ol ditectifs, fe ddioddefodd ymosodiad treisgar ar ddec uchaf y bws, cyn i gyd-deithiwr ddod o hyd iddo’n farw. Er i’r gwasanaethau brys gael eu galw am 12.10yb ddydd Gwener, roedd Archie Sheppard eisoes wedi marw.

Mae Scotland Yard yn aelio am help wrth geisio dod o hyd i ddyn croenwyn a welwyr gydag Archie Sheppard ychydig amser cyn iddo fynd ar y bws yn Brent Cross, gogledd Llundain, tua 11.13yh nos Iau.