Fe all prinder gweithwyr amaeth a garddwriaeth droi’n “argyfwng” os na fydd mwy o weithwyr yn ymuno â’r diwydiant, yn ôl Aelodau Seneddol.
Mewn adroddiad sy’n awgrymu gall ddiffyg llafur arwain at fwyd yn pydru yn y caeau, mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi awgrymu na fyddai amaethyddiaeth yng ngwledydd Prydain yn medru parhau heb weithwyr o dramor.
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Neil Parish, mae busnesau wedi cael trafferth recriwtio gweithwyr o dramor ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Heb ddigon o weithwyr o’r Deyrnas Unedig ac o dramor, ni fydd busnesau amaethyddol a garddwriaethol yn medru parhau,” meddai Neil Parish.
“Am gyfnod hir mae’r diwydiant wedi dibynnu ar weithwyr o dramor er mwyn llenwi swyddi dros dro a pharhaol er mwyn delio â’r diffyg yn argaeledd llafur o’r Deyrnas Unedig – ni all amaethyddiaeth yn y Deyrnas Unedig barhau heb lafur o dramor.”
Prinder gweithwyr amaeth yn arwain at “argyfwng”
Pwyllgor Seneddol yn pwysleisio pwysigrwydd llafur o dramor
← Stori flaenorol
Arlywydd Belarws yn profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws – ar ôl ei wfftio
Alexander Lukashenko wedi cael ei heintio heb symptomau
Stori nesaf →
Dadorchuddio plac i nodi ‘Diwrnod Coffau Gweithwyr’
50,000 o bobol yn marw bob blwyddyn mewn damweiniau neu oherwydd straen gwaith
Hefyd →
Defnyddio mesurau brys i gadw troseddwyr honedig yn y ddalfa cyn mynd i’r carchar
Daw’r mesurau brys ar ôl i gannoedd o bobol gael eu harestio am brotestio, ond does dim digon o le iddyn nhw mewn carchardai ar hyn o bryd