Rhuban 'Diwrnod Coffau Gweithwyr'
Bydd aelodau undeb Unsain yn sir Benfro yn dadorchuddio plac a mainc bicnic ger Abergwaun fore heddiw er cof am weithwyr sydd wedi marw ger yr arfordir.
Bydd y plac a’r fainc wedi ei leoli uwchben y Parrog yn Abergwaun a’r Wdig a daw’r dadorchuddiad ddiwrnod cyn Diwrnod Coffau Gweithwyr.
Mae Diwrnod Coffau Gweithwyr yn cael ei gynnal yn flynyddol ar Ebrill 28 er mwyn coffau pobol sydd wedi colli eu bywydau yn y gweithle.
Mae’n debyg bod hyd at 50,000 o bobol yn marw pob blwyddyn oherwydd damweiniau yn y gweithle neu broblemau iechyd yn gysylltiedig â gwaith.
“Gwella amgylchfyd gwaith”
“Mae pawb sydd yn gweithio heddiw mewn ysbytai, ysgolion, swyddfeydd, ffatrïoedd, siopau a gweithleoedd eraill, wedi elwa o frwydro undebau llafur i wella amgylchfyd gwaith,” meddai Ysgrifennydd Rhanbarthol Unsain, Margaret Thomas.
“Er hyn mae ymosodiadau cynyddol ar amddiffyniadau sylfaenol i weithwyr yn y gweithle. Mae cymdeithas oll yn elwa o undebau cryfion sydd yn amddiffyn ymarferion gwaith diogel.”