Mae teithwyr oriau brys yn wynebu oedi mawr yn Llundain, wedi i dân gynnau yn un o orsafoedd prysura’r ddinas.
Mae trenau wedi’u canslo i mewn ac allan o Euston, wedi i dân ar ymyl y trac ger South Hampstead amharu ar y cyflenwad trydan.
Mae’r tân wedi effeithio teithwyr trenau Midland, Virgin a Southern, ac mae wedi effeithio ar ran o’r trac rhwng Euston a Harrow Wealdstone.