Theresa May (Llun; Hannah McKay/PA Wire)
Fe fydd etholiad cyffredinol brys yn cael ei gynnal ar Fehefin 8, ar ôl i fwyafrif helaeth o Aelodau Seneddol gefnogi cynnig yn y Senedd.
Pleidleisiodd 522 o Aelodau Seneddol o blaid y cynnig, gyda dim ond 13 yn pleidleisio yn ei erbyn.
Roedd y ffigwr ymhell dros y ddau draean o fwyafrif (434) oedd ei angen er mwyn galw’r etholiad cyffredinol.
Roedd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron ymhlith y 522.
Ond fe ataliodd yr SNP eu pleidlais.
Pleidleisiodd Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, Ann Clwyd yn erbyn, gyda thri Aelod Seneddol Plaid Cymru’n pleidleisio o blaid.