Mae dyn 51 oed wedi cael ei arestio yng Nghatraeth ar amheuaeth o lofruddio cyn-filwr.
Cafodd Heddlu Gogledd Swydd Efrog eu galw i ganolfan cyn-filwyr digartref nos Wener ar ôl i ddyn 34 oed gael ei ddarganfod wedi’i drywanu.
Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r dyn yn cael ei holi yn y ddalfa.
Dydy’r dyn fu farw ddim wedi cael ei enwi eto, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.