Mae dyn 33 oed oedd wedi llwyddo i osgoi carchar am ymosod ar ei wraig â bat criced a’i gorfodi i yfed canyddion (bleech), wedi ei garcharu wedi’r cyfan.

Dywedodd Mustafa Bashir yn wreiddiol y byddai’n colli cytundeb oedd wedi cael ei gynnig iddo i fod yn gricedwr proffesiynol gyda Chlwb Criced Caerlŷr, pe bai yn cael ei garcharu.

Cyflwynodd lythyr i’r llys, gan asiant honedig, yn ‘profi’ ei fod e wedi derbyn y cytundeb.

Yn rhannol oherwydd hynny, fe gafodd ddedfryd ohiriedig yn Llys y Goron Manceinion ar Fawrth 22 am ymosod gan achosi niwed corfforol, ymosod drwy guro, dinistrio neu ddifrodi eiddo a defnyddio sylwedd (canyddion) gyda’r bwriad o achosi niwed.

Ond ar ôl i glwb Caerlŷr wadu eu bod nhw wedi cynnig cytundeb iddo, aeth y prif weithredwr Wasim Khan at Wasanaeth Erlyn y Goron gyda thystiolaeth fod yr honiadau’n “gwbl ffals”.

Yn Llys y Goron Manceinion heddiw, gwnaeth y barnwr dro pedol, a’i garcharu ar unwaith er bod Mustafa Bashir wedi dweud yn ystod y gwrandawiad byr fod yr honiadau’n deillio o “gyfres o gamddealltwriaethau”.

Cafodd Mustafa Bashir ei garcharu am 18 mis.