Mae chwe chricedwr o Gymru wedi’u cynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y gêm Bencampwriaeth gyntaf oddi cartref yn erbyn Swydd Northampton heddiw.
Mae’r to iau wedi cael cyfle i serennu unwaith eto yn dilyn perfformiadau campus y tymor diwethaf ac yn ystod y gemau paratoadol cyn dechrau’r tymor hwn.
Yn eu plith mae’r Cymro Cymraeg o Bontarddulais Owen Morgan, ynghyd â’r batiwr ifanc Kiran Carlson o Gaerdydd a’r bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey.
Tarodd Owen Morgan ganred yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn New Road y tymor diwethaf ac felly, fe oedd y noswyliwr cyntaf erioed i gyflawni’r gamp honno.
Kiran Carlson, 18, yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred i Forgannwg, gan dorri record Matthew Maynard wrth daro 118 yn erbyn Swydd Essex. Bythefnos cyn hynny, fe gipiodd e bum wiced gyda’r bêl – yn erbyn Swydd Northampton – ac yntau ond yn droellwr rhan amser.
Daeth awr fawr Lukas Carey yn San Helen y tymor diwethaf wrth iddo gipio saith wiced yn ei gêm gyntaf i’r sir – unwaith eto yn erbyn Swydd Northampton.
Yn ymuno â’r triawd mae’r batiwr ifanc addawol o Abertawe, Aneurin Donald, y chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd a’r troellwr o Sir Benfro, Andrew Salter.
Robert Croft fu’n siarad â golwg360 bore ddoe ar drothwy’r gêm:
Wynebau newydd
Mae dau wyneb newydd yn y garfan, sef y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Marchant de Lange, sydd wedi ymuno gan ddefnyddio pasport Prydeinig, a Harry Podmore, sydd wedi ymuno ar fenthyg o Swydd Middlesex am fis cynta’r tymor.
Ar ôl glanio yng Nghymru, dywedodd Marchant de Lange wrth golwg360: “Dw i wedi setlo’n dda, dw i wedi cael croeso cynnes iawn ac mae’n fraint cael bod yma.”
Mae ei basport Prydeinig yn golygu na all Marchant de Lange ddychwelyd i chwarae yn Ne Affrica am y tro, a doedd e ddim yn gymwys i fod yn chwaraewr Kolpak gan nad oedd e wedi chwarae digon o weithiau dros ei wlad.
Ond mae’n mynnu bod symud i Forgannwg ar gytundeb tair blynedd yn golygu bod ei yrfa ryngwladol ar ben.
“Mae’r bennod yn Ne Affrica wedi dod i ben nawr. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol a chael chwarae yng ngemau’r siroedd, ac yn enwedig i Forgannwg.
“Ar ôl y fath groeso, hoffwn i gyfrannu gyda chwpwl o wicedi i ddechrau, a gwneud beth dw i’n ei wneud orau, sef bod yn ymosodol ar y cae gyda’r bêl, ac efallai y galla i sgorio rhediadau hefyd.”
‘Tîm ifanc ond awyddus’
Er bod y tîm yn un ifanc, mae Marchant de Lange yn mynnu ei fod yn dîm sy’n “ysu” i ennill.
“Bydd y canlyniadau’n gofalu amdanyn nhw eu hunain os gawn ni’r pethau elfennol yn iawn.
“Ond yr hyn y galla i ei gynnig yw ’mod i wedi chwarae dipyn o amgylch y byd, wedi chwarae tipyn o gemau T20 ac wedi cwrdd â rhai o’r “bois mawr” ac felly galla i ddod â’r wybodaeth honno’n ôl i Forgannwg.”
Carfan Swydd Northampton: N Buck, J Cobb, N Duckett, M Holden, R Kleinveldt, R Levi, R Newton, A Rossington, A Wakely (capten), G White, B Sanderson
Y tîm: R Newton, B Duckett, A Wakely (capten), M Holden, A Rossington, R Levi, S Crook, G White, R Kleinveldt, N Buck, B Sanderson
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), N Selman, D Lloyd, C Ingram, C Cooke, A Donald, K Carlson, C Meschede, O Morgan, A Salter, M De Lange, L Carey, H Podmore
Y tîm: J Rudolph (capten), N Selman, D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, K Carlson, C Meschede, H Podmore, L Carey
Galwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu batio