Robin McBryde
Mae hyfforddwr dros dro Cymru wedi dweud mai’r gemau ‘Dydd y Farn’ rhwng Gleision Caerdydd a’r Gweilch, a’r Dreigiau a Scarlets Llanelli, fydd y cyfle olaf i chwaraewyr serennu cyn iddo ddewis ei garfan ar gyfer y daith i Donga a Samoa ym mis Mehefin.

Yn absenoldeb Warren Gatland, sydd i ffwrdd gyda’r Llewod ym Mhrydain, Robin McBryde sy’n dewis y garfan ar gyfer taith nesaf Cymru.

Wythnos i yfory yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd bydd pedwar rhanbarth Cymru yn chwarae ac mae hyfforddwr Cymru am roi’r chwaraewyr yn y glorian.

“Mae hi am fod yn benwythnos anferthol yng Nghaerdydd ac rydym ni’r hyfforddwyr eisiau gweld sut mae’r chwaraewyr yn ymateb dan y fath bwysau,” meddai Robin McBryde.

“Mae Dydd y Farn yn darparu llwyfan gwych i’r chwaraewyr ddangos eu  doniau.”

Eisoes mae dros 50,000 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y ddwy ddarbi.