Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cyflwyno cynllun gyda’r bwriad o fynd i’r afael â diffyg Catholigion sy’n ymuno â’r llu – ond maen nhw’n ymwrthod â’r syniad bod angen ail-gyflwyno rheol 50/50.

Mae cynlluniau diweddar i ymestyn allan a denu plismyn newydd o’r gymuned Gatholig, wedi methu – er bod ymgyrchoedd hysbysebu wedi bod yn targedu’r gymuned honno’n bendodol.

Dim ond 31% o’r rheiny sy’n ymgeisio i ymuno â’r gwasanaeth, sy’n dod o gefndir cenedlaetholgar neu Gatholig. A dim ond 19% o’r rheiny sy’n mynd heibio i’r camau cynta’ yn y broses ddethol.

Mae un o swyddogion mwya’ profiadol Gogledd Iwerddon, y Dirprwy Brif Gwnstabl Drew Harris, yn dweud ei fod yn obeithiol y gallai’r ganran sy’n ymgeisio godi i 50% o fewn y pum mlynedd nesa’, o gael gwleidyddion ac arweinwyr cymunedol i gydweithio â’r heddlu.