Mae denu dilynwyr ar wefannau cymdeithasol yn bwysicach i bobol 17-20 oed na bod yn berchen ar gar, yn ôl arolwg sydd newydd ei gyhoeddi.
Dim ond 11% o’r rheiny oedd wedi ateb yr arolwg gan gwmni Cars on Demand oedd yn credu bod perchen ar gar yn bwysig, tra bod 24% wedi dweud mai denu dilynwyr ar wefannau cymdeithasol oedd y prif symbol o statws.
Aeth 41% o’r rheiny oedd wedi ymateb mor bell â dweud nad ydyn nhw’n mwynhau gyrru, hyd yn oed, tra bod gostyngiad o 12.5% ers 1990 yn nifer y bobol 17-20 oed sydd â thrwydded yrru.
Yn 2015, dim ond 33% o ddynion 17-20 oed oedd â thrwydded yrru, o’i gymharu â 54% yn 1990.
Y symbol mwyaf o statws:
Dilynwyr ar wefannau cymdeithasol 24%
Bod yn berchen ar y ffôn/cliniadur diweddaraf: 16%
Brandiau dillad: 14%
Aelodaeth o glwb preifat: 6%
Bod yn berchen ar dŷ: 29%
Bod yn berchen ar gar: 11%
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cars on Demand, Paul Brown: “Ychydig iawn o reswm sydd gan y rheiny sydd wedi’u geni yn yr 21ain ganrif i fod yn berchen ar gar y dyddiau hyn, a dyw hi ddim yn ymddangos bod llawer o ddiddordeb chwaith.
“Dyna pam fod llogi am gyfnod byr yn gallu bod yn opsiwn deniadol i’r genhedlaeth ddi-ymrwymiad hon.