Mae ditectifs sy’n ymchwilio i drosedd gasineb honedig yn erbyn ceisiwr lloches, wedi rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng o dri o bobol y maen nhw’n awyddus i’w holi.
Mae Heddlu’r Met yn dweud eu bod yn chwilio am ddau ddyn ac un ddynes mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar ddyn fachgen 17 oed sy’n hanu o Iran ac o dras Gwrdaidd.
Mae’r dyn ifanc yn ymladd am ei fywyd yn yr ysbyty, yn dilyn y digwyddiad mewn safle bws yn Croydon, de-ddwyrain Llundain.
Mae wyth o bobol eisoes yn y ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio. Ond mae Scotland Yard yn dweud eu bod yn gwybod fod “tua ugain” o bobol yn rhan o’r digwyddiad.