Michael Heseltine (Llun: Wikipedia)
Mae un o gyn-weinidogion cabinet Margaret Thatcher, wedi colli ei swydd fel ymgynghorydd i lywodraeth Theresa May oherwydd ei safiad ar Brexit.
Roedd Michael Heseltine wedi cefnogi cynnig yn Nhy’r Arglwyddi y dylid cynnal pleidlais seneddol ar fargen derfynol Brexit – yna clywodd ddydd Mawrth na fyddai’n cael parhau i gynghori llywodraeth Prydain.
Roedd Michael Heseltine hefyd ymysg y 366 o Arglwyddi wnaeth bleidleisio i gyflwyno newidiadau mesur Brexit pan gafodd y ddeddfwriaeth ei thrafod yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mynnodd y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweld eisiau ei arbenigedd a dywedodd fod “dyfodol Prydain wedi ei blethu ag Ewrop”.
Cafodd yr Arglwydd ei wahodd i fod yn ymgynghorydd pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog a bu’n ymgynghori ar nifer o brosiectau gan gynnwys Cynllun Bae Dinesig Abertawe.