Comisiynydd newydd Heddlu'r Met, Cressida Dick (Llun: PA)
Mae’r blismones oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad a arweiniodd at saethu Jean Charles de Menezes yn farw ar gam ar drên tanddaearol yn Llundain, wedi cael ei phenodi’n bennaeth newydd heddlu Scotland Yard.
Cressida Dick yw’r fenyw gyntaf erioed i gael ei phenodi i brif swydd plismona yng ngwledydd Prydain.
Mae hi’n olynu Syr Bernard Hogan-Howe yn gomisiynydd Heddlu Llundain, ar ôl dychwelyd i’r heddlu wedi dwy flynedd o weithio i’r Swyddfa Dramor.
Yn 2005, hi oedd yn gyfrifol am ymchwiliad oedd wedi adnabod Jean Charles de Menezes – ar gam – fel un oedd yn cael ei amau o fod yn fygythiad i ddiogelwch drwy fod yn hunanfomiwr posib.
Ond cafwyd hi’n ddieuog o fod ag unrhyw ran anghyfreithlon yn ei farwolaeth.
Menyw bellach sydd yn y tair swydd bwysicaf yn yr heddlu yng ngwledydd Prydain – comisiynydd, pennaeth cyngor penaethiaid yr heddlu (NPCC) a’r Asiantaeth Dorcyfraith (NCA).
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd fod Cressida Dick yn “arweinydd rhagorol”, tra bod Maer Llundain, Sadiq Khan wedi dweud bod heddiw’n “ddiwrnod hanesyddol i Lundain”.