Llun: PA
Mae dyn wnaeth dagu plismon i farwolaeth tra roedd yn cael rhyw, cyn ceisio ei fwyta, wedi marw yn y carchar.

Cafodd Stefano Brizzi, 50 oed, ei garcharu am o leiaf 24 mlynedd ym mis Rhagfyr y llynedd am lofruddiaeth Gordon Semple, 59 oed, yn ei fflat yn ne Llundain.

Daeth cadarnhad heddiw fod Stefano Brizzi wedi marw yng ngharchar Belmarsh yn ne ddwyrain Lloegr ddydd Sul, Chwefror 5.

“Fel gyda phob marwolaeth yn y ddalfa fe fydd ymchwiliad annibynnol gan Ombwdsmon Carchar a Phrofiannaeth yn cael ei gynnal,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai.

Gwaredu mewn ‘bath asid’

Yn ystod ei achos llys, fe wnaeth Stefano Brizzi gyfaddef ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan y gyfres deledu Breaking Bad wrth iddo geisio gwaredu â chnawd yr heddwas mewn bath o asid.

Roedd Brizzi, sy’n gaeth i crystal meth, wedi gwadu iddo geisio bwyta rhannau o gorff Gordon Semple ar ôl i asen gael ei ddarganfod yn y bin sbwriel yng nghegin ei fflat yn Llundain.

Ond wrth iddo gael ei ddedfrydu, dywedodd yr erlyniad bod arbenigwr wedi cadarnhau bod Brizzi wedi ceisio bwyta cnawd dynol, er iddo honni nad oedd yn cofio gwneud hynny.