Afghanistan
Mae mwy na chant o bobol wedi’u lladd dros y dyddiau diwethaf yn Afghanistan yn dilyn cwympfeydd eira trwm.

Yn ôl adroddiadau, mae o leiaf 119 o bobol wedi’u lladd, 89 wedi’u hanafu ac yn agos at 190 o gartrefi wedi’u dinistrio mewn sawl talaith ar draws y wlad.

Mae disgwyl y bydd y ffigurau hynny’n codi dros y dyddiau nesaf wrth i dimau achub wneud eu ffordd i ardaloedd diarffordd sydd wedi’u hynysu gan ffyrdd yn llawn eira.

Mae’r dalaith Nuristan ger ffin Pacistan wedi’i heffeithio’n fawr lle mae dau bentref wedi’u claddu dan yr eira yno.

Fe gyhoeddodd llywodraeth Afghanistan wyliau cyhoeddus i’r wlad ddoe, Chwefror 5, o ganlyniad i’r eira trwm, ac mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cynnig eu cymorth.