Archesgob Caergaint (Llun: PA)
Mae Eglwys Loegr wedi ymddiheuro, ac wedi cyfadde’ ei methiant, yn dilyn adroddiadau o gam-drin corfforol gan un o gyn-gydweithwyr Archesgob Caergaint.

Mae cyfres o gyhuddiadau wedi’u gwneud yn erbyn John Smyth, cyn-arweinydd yng ngwersyll gwyliau i fechgyn Iwerne, lle bu Justin Welby yn gweithio fel swyddog dorm yn y 1970au hwyr.

Fe ddaeth y cyhuddiadau i’r golwg fel rhan o ymchwiliad gan Channel 4 News i sut mae John Smyth QC bellach yn farnwr rhan-amser ac yn byw yn Ne Affrica.

Fegafodd The Iwerne Trust, a oedd yn cadw golwg ar y gwersylloedd Cristnogol, wybod am y cyhuddiadau, ac fe gyhoeddodd adroddiad yn 1982, ond chafodd y mater ddim eu dwyn i sylwr heddlu, meddai Channel 4 News.

“Dydw i ddim yn siarad am hynny,” meddai John Smyth wrth Channel 4, a phan mae’n cael ei holi eto am y mater, mae’n dweud yn bendant, “Dw i ddim yn siarad am hynny o gwbwl”.

Datganiad

Mewn datganiad ar dan Justin Welby, Archesgob Caergaint, meddai Eglwys Loegr: “Roedd John Smyth yn un o brif arweinwyr y gwersyll, ac er bod yr Archesgob yn gweithio gydag ef, doedd o ddim yn rhan o’r cylch cyfrin o ffrindiau; wnaeth neb drafod y cyhuddiadau o gam-drin yn erbyn John Smyth gyda’r Archesgob.

“Rydyn ni’n cydnabod fod nifer o sefydliadau wedi methu yn gythreulig, ond mae disgwyl i’r Eglwys osod safonau llawer, llawer, uwch, ac mae hi wedi methu’n ofnadwy.

“Am hynny, mae’r Archesgob yn ymddiheuro’n llaes i bawb aeth trwy hyn.”