Michelle Brown AC
Mae un o Aelodau Cynulliad UKIP wedi gwadu ysmygu cyffuriau mewn gwesty ym Mae Caerdydd.

Cafodd Michelle Brown, sy’n cynrychioli Gogledd Cymru, ddirwy o £250 gan westy’r Future Inn a hynny am y drewdod cryf yn ei hystafell.

Mae UKIP wedi gwadu’r honiadau, gan ddweud ei bod wedi bod yn ysmygu tybaco yn yr ystafell ddi-fwg, heb feddwl.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan bod yr Aelod Cynulliad wedi bod yn aros mewn sawl gwesty ledled Prydain ar y pryd oedd ag ystafelloedd oedd yn caniatáu ysmygu, a’i bod wedi anghofio ei bod yn aros mewn ystafell ddi-fwg yng Nghaerdydd.

“Roedd yn gamgymeriad difeddwl ac fe wnaeth Michelle dalu’r ffi glanhau,” meddai’r llefarydd wrth y BBC.

Roedd Michelle Brown yn aros yn y gwesty ym mis Mai 2016, yn fuan wedi iddi gael ei hethol i’r Senedd am y tro cyntaf.