Mae dyn o Belffast wedi ennill achos yn y Goruchaf Lys wedi “methiant” heddlu Gogledd Iwerddon i atal protestiadau Unoliaethwyr a’u defnydd o faner Jac yr Undeb.
Mae pum barnwr o’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu o blaid y dyn – sydd heb ei enwi – gan ddatgan bod gan yr heddlu y pŵer cyfreithiol i atal y gorymdeithiau.
Bu nifer o brotestiadau Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon yn dilyn penderfyniad Cyngor Dinas Belffast i gyfyngu ar y nifer o ddyddiau gaiff y faner Brydeinig ei chodi uwchben neuadd y ddinas.
Dadl y preswylydd o ardal genedlaetholgar Dwyrain Belffast, oedd bod methiant yr heddlu i atal y gorymdeithiau o flaen ei dŷ rhwng Rhagfyr 2012 a Chwefror 2013 yn amharu ar ei hawl i breifatrwydd a bywyd teuluol.
Heddlu Gogledd Iwerddon
Er i Uchel Lys Belffast ddyfarnu o blaid y preswylydd yn y gorffennol, cafodd y dyfarniad ei ddiddymu yn dilyn her gan Heddlu Gogledd Iwerddon, a dyna pam fod yr achos wedi’i ddwyn gerbron y Goruchaf Lys.
Daeth y barnwyr i’r canlyniad bod gorymdeithiau’r unoliaethwyr wedi bod yn anghyfreithlon gan nad oedden nhw wedi cael caniatâd gan y Comisiwn Paredau, a bod yr heddlu heb lwyr werthfawrogi eu gallu i ymyrryd yn y protestiadau.