Theresa May a Donald Trump mewn cynhadledd i'r wasg ar ôl eu cyfarfod ddoe (llun: Stefan Rousseau/Gwifren PA)
Yn ei gyfarfod cyntaf â’r Prif Weinidog Theresa May ddoe, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump ei fod yn gefnogwr brwd i Brexit.

“Mae Prydain rydd ac annibynnol yn fendith i’r byd,” meddai. “Dw i’n meddwl fod Brexit am fod yn rhywbeth ardderchog i’ch gwlad.

“Rydych am gael eich hunaniaeth eich hun ac rydych am gael y bobl sydd arnoch chi eu heisiau yn eich gwlad.”

Dywedodd hefyd y byddai’n cael perthynas wych gyda Theresa May wrth dderbyn ei gwahoddiad i ddod i Brydain ar ymweliad gwladol yn ystod eleni.

Fe fu’r ddau yn cyfarfod am bron i awr o drafodaethau ddoe, ac mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd wedyn dywedodd Theresa May fod yr arlywydd wedi datgan ymwymiad o 100% i Nato, er iddo ddatgan amheuon yn y gorffennol am werth y gynghrair filwrol.

Fe wnaeth hi hefyd longyfarch yr arlywydd ar ei fuddugoliaeth ‘ryfeddol’ yn yr etholiad.