Mae nifer yr hunanladdiad, ymosodiadau ac achosion o hunan-niweidio mewn carchardai, ar eu lefelau ucha’ erioed yn ôl ystadegau diweddar.

Yn ôl yr ystadegau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, roedd yna 119 achos o hunanladdiad y flwyddyn ddiwethaf, sy’n cyfateb i ddau bob wythnos.

Roedd nifer yr achosion o hunan-niweidio godi 23% yn ystod y 12 mis hyd at Fedi 2016, o gymharu â’r flwyddyn gynt, a bu cynnydd o 31% yn nifer ymosodiadau dros yr un cyfnod.

Bu cynnydd yn y nifer o ymosodiadau ar staff hefyd, gyda 6,430 wedi eu cofnodi – cynnydd o 40% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

“Mae cynnydd yn y nifer o ymosodiadau ers 2012 wedi cyd-daro â newidiadau mawr i’r drefn … sy’n cynnwys cwtogi nifer staff ,” meddai adroddiad y Weinyddiaeth.

Argyfwng carchardai

Daw’r ystadegau yn sgil cyfnod o argyfwng yng ngharchardai gwledydd Prydain sydd wedi gweld staff yn ymddiswyddo a chynnwrf gan garcharorion.

“Mae’r problemau yma’n rhai hir dymor, fydd ddim yn cael eu datrys mewn wythnosau neu fisoedd,” meddai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Liz Truss.

“Ond bydd ein diwygiadau yn gosod y sylfaen ar gyfer trawsnewid ein carchardai, lleihau ail droseddi a gwneud ein cymunedau yn fwy diogel.”