Yn dilyn cyhoeddi gwerth tair miliwn o bunnoedd i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i hybu mwy o Gymraeg yn y gweithle, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryderon.
Yn ôl Suzy Davies, llefarydd y blaid ar y Gymraeg, mae’n “bryder” na fydd yr arian hwn ar gael i weithleoedd yn y sector preifat ac elusennau.
Yn y cyfamser, mae aelod arall o’r Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, wedi dweud y dylai rhieni di-Gymraeg sy’n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg gael gwersi Cymraeg am ddim.
Un o rolau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw helpu’r 80 o gyrff cyhoeddus sy’n glynu at safonau Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig cymorth i fusnesau ar hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.
“Tra ein bod yn cefnogi unrhyw ymdrech i gefnogi sefydliadau i chwarae eu rhan yn gwneud y Gymraeg yn rhan o fywyd pawb, mae’n bryder bod rhannau helaeth o weithle Cymru yn cael eu gadael allan o’r fenter,” meddai Suzy Davies.
Dywedodd fod 27% o weithwyr Cymru yn gweithio i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, tra bod y mwyafrif yn gweithio i’r trydydd sector a’r sectorau preifat.
“Os yw Llafur o ddifrif am gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr, yna rhaid iddi ddechrau adeiladu ar y syniad bod y Gymraeg yn iaith fusnes.
“Felly beth am ddechrau mentrau cymdeithasol a busnesau preifat eraill fel rhan o’r ateb?”
Cymraeg i rieni
Mae’r ateb hefyd yn rhoi gwersi Cymraeg am ddim i rieni plant sy’n mynd i ysgolion Cymraeg, yn ôl Darren Millar, AC dros Orllewin Clwyd.
“Gallai rieni ar eu hennill o wersi Cymraeg am ddim a byddaf i’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y gost ar ymarferoldeb o gyflwyno hyn fel cynllun prawf.
“Dylai costau ddim fod yn rhwystr i bobol sy’n ceisio dysgu Cymraeg, byddai unrhyw gostau tymor byr i’r llywodraeth yn troi’n enillion yn yr hir dymor.”
Mwy o gynlluniau “maes o law”
Mae’r cynllun yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r cynllun yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i glustnodi £5 miliwn yn ychwanegol i’r Gymraeg yn ei chyllideb 2017/18 – hynny ar ôl dod i gytundeb ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cyhoeddiad ar sut fydd y £2 miliwn arall yn cael ei wario “maes o law.”
Mae golwg360 wedi gofyn am eu hymateb i sylwadau Suzy Davies a dywedodd llefarydd fod Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig cymorth i fusnesau ar hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.