Theresa May gyda Barack Obama... ond tybed beth fydd natur y berthynas gyda Donald Trump wrth y llyw?
Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain annog “adnewyddiad” y berthynas arbennig yn ystod ei thaith i’r Unol Daleithiau.

Bydd Theresa May yn y wlad am ddau ddiwrnod, a hi fydd yr arweinydd cynta’ i gwrdd â Donald Trump ers ei urddo yn Arlywydd yr wythnos ddiwetha’.

Wrth areithi yn Philadelphia heddiw i gynulleidfa o gyngreswyr y blaid Weriniaethol, bydd Theresa May hefyd yn datgan ei dymuniad i weld y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yn “arwain [y byd] gyda’i gilydd unwaith eto”.

Bydd y Prif Weinidog yn cwrdd â Trump ddydd Gwener er mwyn trafod ystod eang o faterion gan gynnwys dêl fasnachu ôl-Brexit a phwysigrwydd NATO.

Nid Theresa May fydd y gwleidydd cyntaf i gwrdd â’r Arlywydd gan fod cyn-arweinydd UKIP, Nigel Farrage eisoes wedi cwrdd ag ef.