Mae disgwyl i gynghorwyr Caerdydd bleidleisio heddiw ar gynnig a allai olygu tynnu Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn ôl.

Mae’r cynnig gan grŵp Plaid Cymru ar y cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar oblygiadau ariannol y cynllun a’i dynnu yn ôl. Hynny am fod pryderon dros ardaloedd gwyrdd ger y brifddinas.

Mae Plaid Cymru’n dweud y byddai’r Cynllun Datblygu Lleol yn “adeiladu miloedd o dai ar y caeau gwyrdd o amgylch Caerdydd.”

Ond dadl y grŵp Llafur, sy’n rhedeg y Cyngor, yw bod angen mwy o dai ar fyrder gan fod y ddinas yn tyfu ar raddfa gyflym iawn.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp hefyd y byddai bod heb Gynllun Datblygu Lleol yn golygu bod gan ddatblygwyr rhwydd hynt i adeiladu ar fannau gwyrdd y brif ddinas.

Ond mae Neil McEvoy, arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor ac Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, yn dweud y byddai tagfeydd traffig y ddinas yn gwaethygu a mwy o bwysau ar ysbytai pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y Cyngor, Elizabeth Clark, y byddan nhw’n pleidleisio ar welliant i’r cynnig fydd yn golygu bod angen ail-edrych ar y cynllun cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Bellach, dim ond mwyafrif o bedwar sydd gan Lafur ar Gyngor Caerdydd, felly mae’n bosib gall y cynnig gael ei basio.

“Pleidlais Carmaggedon”

“Mae Llafur wedi anwybyddu pob ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol,” meddai Neil McEvoy.

“Mae barn pobol Caerdydd yn glir: dydyn nhw ddim eisiau colli’r caeau gwyrdd o amgylch Caerdydd. Dyma le mae pobl Caerdydd yn mynd i gerdded gyda’u teuluoedd a lle mae cenedlaethau o blant wedi chwarae.

“Ond mae’n ymddangos mai’r unig bobl y mae Llafur yn gwrando arnyn nhw’r dyddiau yma ydi’r datblygwyr tai corfforaethol a fydd yn elwa o filiynau o bunnoedd.

“Mae’r Bleidlais Carmagedon y mae Plaid Cymru wedi’i chyflwyno yn rhoi cyfle i Lafur achub ein caeau gwyrdd rhag cael eu dinistrio a chadw traffig newydd oddi ar ein ffyrdd. Rhaid iddyn nhw fanteisio ar y cyfle yma.”

Cynllun am “ddiogelu” mannau gwyrdd

Yn ôl y Cynghorydd Ed Stubbs o’r Blaid Lafur, byddai’r cynllun yn “diogelu safleoedd [gwyrdd]” rhag datblygwyr a pherchnogion tir.

“Byddai gadael ni [heb gynllun] yn golygu y gallai datblygwyr cyfoethog mynd â ni i’r llysoedd ac adeiladu lle bynnag maen nhw eisiau,” meddai wrth golwg360.

“Os nad oes gennych gynllun, does dim ffordd gyfreithiol gennych i ddweud ‘na’ i gais cynllunio a fyddai’n sefyll yn y llys.

“Ni yw prifddinas Cymru, mae’r syniad bod prifddinas unrhyw wlad yn troi ar drigolion Caerdydd ac yn dweud na fyddwn ni’n adeiladu fan hyn, does dim croeso i chi fan hyn, ry’n ni ond yn mynd i adeiladu i bobol leol… dy’ch chi wedyn yn colli eich statws fel prifddinas.”