Mae rhifyn arbennig o bapur newydd The Scotsman wedi ei gyhoeddi heddiw i ddathlu pen-blwydd y cyhoeddiad yn 200 oed.

Rhwng cloriau’r rhifyn heddiw mae cyfres o lythyron gan y Frenhines a gwleidyddion blaenllaw yn llongyfarch y papur ar y garreg filltir.

Mae atodiad 24 tudalen hefyd wedi’i gynnwys yn y papur, gan gynnwys atgynhyrchiad o’r rhifyn cyntaf un o 1817.

Yn ei neges hithau, dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon: “Drwy gydol 200 mlynedd o newidiadau tymhestlog ar draws y wlad a’r byd ehangach, mae’r Scotsman wedi bod yno i adrodd am y cyfan a’i ddadansoddi.”

Ychwanegodd fod “taith y papur yn adlewyrchiad o’r Alban ar y cyfan”.

Hanes y papur

Cafodd The Scotsman ei sefydlu gan y cyfreithiwr William Ritchie a’r swyddog tollau Charles Maclaren, a’i weithredu ar sail “diddueddrwydd, pendantrwydd ac annibyniaeth”.

Siôr III oedd y brenin ar adeg y cyhoeddiad cyntaf ar Ionawr 25, 1817 – a heddiw yw rhifyn rhif 53,220.

Dywed y cyfarwyddwr golygyddol, Ian Stewart, yn y rhifyn: “Yn 1817, roedd newidiadau’n cyflymu, newidiadau technolegol yn gyrru newidiadau cymdeithasol ac roedd hynny’n gyrru newidiadau gwleidyddol.

“Mae cyfradd y newid hwnnw wedi cyflymu ond drwy’r cyfan oll, mae’r Scotsman wedi adrodd hanes fel yr oedd yn digwydd.

“Dw i’n dal i deimlo ton o edmygedd a balchder pryd bynnag dw i’n meddwl am y llinach hir o ymdrech newyddiadurol sydd wedi mynd i mewn i hynny – ac mae’n parhau hyd heddiw.

“Dw i a’r holl staff yma’n rhan o hynny ac yn ymwybodol iawn ohono.

“Cafodd enw da’r papur newydd hwn ei adeiladu gan ymdrechion diflino’r holl ddynion a menywod hynny, ac rydyn ni’n gwybod fod rhaid i ni weithio’n galed i’w gynnal.

“Mae gennym ein rhan i’w chwarae wrth sicrhau bod ei werthoedd yn cael eu cynnal a’u parhau, a’n rhan i’w chwarae wrth gadw’r llinach heb ei dorri.”