Mae saith o bobol wedi’u crogi yn Kuwait – y bobol gynta’ i gael eu dienyddio yn y wlad ers nifer o flynyddoedd.

Mae aelod o deulu brenhinol y wlad a dynes a gafwyd yn euog o ladd mwy na 40 o bobol ymhlith y saith.

Yn ôl asiantaeth newyddion KUNA, cafodd unigolion o Fangladesh, y Ffilipinas, Ethiopia, Kuwait a’r Aifft eu dienyddio ochr yn ochr.

Faisal Abdullah Al Jaber Al Sabah yw’r aelod o’r teulu brenhinol, yn ôl adroddiadau, ac fe gafwyd e’n euog o lofruddio trwy gynllwyn ac o feddu’n anghyfreithlon ar ddryll.

Cafwyd Nasra al-Enezi o Kuwait yn euog o lofruddio trwy gynllwyn drwy roi pabell briodas ar dân wrth i’w chyn-ŵr briodi eto, a chafodd 40 o bobol eu lladd.

Yn y Ffilipinas, cafwyd Jakatia Pawa yn euog o lofruddio merch un o’i gweithwyr.

Mae lle i gredu mai yn 2013 y cafwyd y dienyddiadau diwethaf yn y wlad, pan gafwyd unigolion o Bacistan a Saudi Arabia eu dienyddio, ynghyd â ‘Bidoon’, sef yr enw sy’n cael ei roi ar unigolion heb ddinasyddiaeth.