Caroline Jones AC
Mae Aelod Cynulliad UKIP wedi ei chyhuddo o fod yn “wrth-Gymraeg” yn dilyn sylwadau yn ystod sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth.

Wrth siarad yn y siambr, mi wnaeth Caroline Jones, sy’n cynrychioli rhanbarth y De-orllewin, gwestiynu’r angen i wneud dysgu Cymraeg yn orfodol, o ystyried bod “niferoedd sy’n medru’r iaith wedi disgyn.”

Ychwanegodd bod “y mwyafrif o bobol yn gwrthwynebu’r ffaith bod dysgu’r iaith yn orfodol” gan holi, “Ydi hi’n hen bryd i ni dderbyn bod y stick approach [ymdriniaeth lem o’r mater] ddim yn gweithio.”

Gorffennodd trwy holi “yn hytrach na gorfodi pawb i ddysgu Cymraeg, a allwn ni geisio ei gwneud hi’n haws i’r rhai sydd wir eisiau dysgu?”

“Gwrth-Gymraeg”

“Mae’r sylwadau hyn yn wrth-Gymraeg ac yn adweithiol,” dywed cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone mewn datganiad yn ymateb i’r sylwadau.

“Mae mwyafrif pobl Cymru yn cytuno gyda ni fod y Gymraeg yn sgil hanfodol i bob person ifanc; mae pobl eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu. Felly’r hyn sydd ei angen yw cynigion er mwyn sicrhau bod ’na addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, nid i’r rhai ffodus yn unig.”

Yn ôl canlyniadau arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd yn 2014 roedd 63% o’r bobl a holwyd yn yr arolwg yn cytuno y “dylid dysgu pob disgybl i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg.”

Mae Golwg360 wedi holi Caroline Jones am sylw pellach.