Mae enwau mawr y byd pêl-droed wedi talu teyrnged i gyn-reolwr Lloegr Graham Taylor, sydd wedi marw yn 72 oed.

Roedd yn rheolwr ar glwb Watford yn y 1980au ac fe roddodd gytundebau proffesiynol cyntaf i Malcolm Allen ac Iwan Roberts, dau Gymro Cymraeg aeth yn eu blaenau i chwarae dros eu gwlad.

Y gred yw bod Graham Taylor, wnaeth reoli tîm pêl-droed Lloegr rhwng 1990 a 1993, wedi marw o drawiad ar y galon.

Dechreuodd ei yrfa yn chwaraewr gyda Scunthorpe cyn symud ymlaen i reoli ei glwb cyntaf, Lincoln ac yna clybiau Watford ac Aston Villa.

Caiff ei gyfnod yn llywio clwb Watford ei ystyried fel un o’i brif gampau – fe gododd y clwb o Lundain o’r Bedwaredd i’r Brif Adran mewn pum mlynedd.

Person hynod o boblogaidd

Elton John oedd Cadeirydd Watford yn ystod Oes Aur y clwb dan law Graham Taylor.

“Fe ddaethom yn un o brif glybiau Lloegr dan arweiniad doeth yr athrylith, dyma ddiwrnod tywyll a trist i Watford,”  meddai’r canwr mewn post Instagram.

Dywedodd cyn-reolwr Manchester United Syr Alex Ferguson: “Roedd yn berson agored ac onest ac os gallai fod wedi helpu chi mewn unrhyw ffordd, mi fyddai yn pob tro.”

Dywed cadeirydd presennol yr FA, Greg Clarke: “Ar ran pawb yn yr FA, dw i wedi fy nhristau gan y newyddion. Mi roedd yn berson hynod o boblogaidd nid yn unig o ran pêl droed Seisnig ond hefyd o fewn cylchoedd rhyngwladol.”

Bydd clybiau Cynghrair Pêl-droed Lloegr yn cynnal munud o gymeradwyaeth cyn pob gêm dros y penwythnos, er mwyn dangos parch.