Amy Roberts (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae beicwraig o Gymru’n gobeithio y bydd ras fawr gynta’r tymor yn ddechrau ar gyfnod newydd ar ôl “hunllef” y ddau dymor diwetha’.
Roedd Amy Roberts o Bontyberem wedi colli misoedd o hyfforddi oherwydd anaf a salwch ac mae’n gobeithi y bydd y ‘Tour Down Under’ sy’n dechrau yn Adeilaide, Awstralia, fory yn gyfle i droi dalen newydd.
“Mae’r ddau dymor diwetha’ wedi bod yn hunllef,” medd Amy sy’n rasio i dîm Wiggle High5 ProCycling.
“Ges i anaf yn 2015 a firws y flwyddyn ddiwetha’; fe gollais i dri mis o ymarfer. Felly dw i’n gobeithio y bydd 2017 yn garedig i fi.”
Pump o Gymry yn y ras
Mae Amy Roberts yn un o ddwy Gymraes yn y ras – y llall yw Hayley Jones o Bort Talbot sy’n seiclo i Mercedes Adelaide Blackchrome – ac fe fydd y tri Chymro yn nhîm Sky hefyd yn rasio: Geraint Thomas, Luke Rowe ac Owain Doull.
Fe gafodd y ras ei sefydlu yn 1999 ac mae wedi mynd o nerth i nerth i gyrraedd statws un o rasys mawreddog yr ‘UCI World Tour’ fel y ‘Tour de France’, gan ddenu tîmau a beicwyr gorau’r byd.
Mae ras y merched yn cynnwys pedwar cymal, gyda chwech aelod. Arbenigedd Amy ar hyn o bryd yw treialon amser ond mae’n dwewud mai tactegau’r tîm o ran ceisio ennill un yu pen draw yw “gweld ar y diwrnod pwy sy’n teimlo’n orau”.
- Mae’r ras i ferched rhwng Ionawr 14 ac 17 ac i ddynion rhwng Ionawr 15 a 22. Fe fydd Golwg360 yn cadw golwg ar sut mae Amy a gweddill y Gymru’n neud trwy gydol y ras.
Amy – eisiau gwneud marc
Fe fu Amy Roberts yn siarad gyda Golwg360 cyn hedfan i Adeilade …
“Wnes i ddechrau cystadlu mewn ‘Triathlons’ pan o’n i’n 14 oed ac wedyn ymuno â Chlwb Seiclo Tywi, mae gyda fi lawer i ddiolch iddyn nhw.”
Fe lwyddodd Amy i ennill pencampwriaeth o dan 16 Cyclo Cross Cymru, ac wedyn ddatblygodd ar y trac a ffordd a chael lle gyda rhaglen ddatblygu Olympaidd Llundain a chynrychioli Prydain yn 2012 yn y categori iau.
Roedd 2012 yn flwyddyn lwyddiannus i’r beiciwr o Bontyberem, pan enillodd deitlau ar lefel y byd, Ewrop a Phrydain ar y trac. Dros y blynyddoedd diwetha’ mae wedi ennill sawl ras yng ngwledydd Prydain ac enillodd y ‘team Pursuit’ ym Mecsico.
Iddi hi, mae’r ras yn Awstralia yn ddechrau cyfnod newydd o geisio gwneud ei marc unwaith eto ar ôl problemau’r ddwy flynedd ddiwetha’, ond fe fydd ennill neu beidio’n dibynnu hefyd ar dactegau’r tîm.
“Fydd rheolwr y tîm yn edrych ar bawb a phenderfynu fel mae’r ras yn mynd yn ei blaen beth fydd y cynllun,” meddai.
“I fi’n bersonol yr hen ystrydeb dweud y bydda’ i’n cymryd bob ras fel mae’n dod, ond gobeithio y caf fi ganlyniadau ffafriol.
“Ar ôl y ras fydda i’n aros yn Awstralia i gystadlu yn ras ‘Cadel Evans Great Ocean Road Race’ ddiwedd y mis.”