Y Beatles (Llun: PA)
Mae rheolwr gwreiddiol y Beatles, Allan Williams wedi marw’n 86 oed.
Cadarnhaodd clwb y Cavern yn Lerpwl ei farwolaeth nos Wener.
Yn enedigol o ardal Bootle, roedd yn ddisgynnydd i Owen Williams, neu Owen Gwyrfai, yr awdur a chofiannydd o Waunfawr ger Caernarfon.
Fe oedd rheolwr ac asiant cynta’r band, a gyrrwr eu fan i Hamburg yn 1960 pan gafodd y Beatles gryn sylw ar draws Ewrop.
Yn 1958, fe brynodd hen siop trwsio watsys a’i throi’n glwb Jacaranda, lle’r oedd pedwarawd y Beatles yn gwsmeriaid rheolaidd.
Ond daeth perthynas y rheolwr a’r band i ben yn 1961 yn dilyn ffrae ariannol, ac fe gynghorodd rheolwr enwoca’r band, Brian Epstein i gadw draw oddi wrthyn nhw flwyddyn yn ddiweddarach, gan ddweud y bydden nhw’n ei “siomi”.
Erbyn y 1970au, roedd yn gyfrifol am drefnu confensiwn blynyddol y Beatles yn Lerpwl ac yn 1975, fe gyhoeddodd ei hunangofiant, ‘The Man Who Gave The Beatles Away’, a gafodd ei droi’n sioe gerdd yn 2002.
Ym mis Mai eleni, cafodd Allan Williams wobr Dinesydd Anrhydeddus Lerpwl mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Dref Lerpwl, gan ail-greu’r olygfa ar falconi’r adeilad yn 1964.
Mewn cyfweliad yn gynharach eleni, dywedodd ei fod yn falch ei fod e wedi darganfod y Beatles, ac nad oedd yn genfigennus o lwyddiant na chyfoeth Brian Epstein, a hynny er na chafodd geiniog gan y band.
Mae Allan Williams yn gadael gwraig, Beryl a dau o blant.