Syr Bryn Terfel (Llun: Asiantaeth PR Harlequin)
Mae Bryn Terfel wedi cael ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenhines Loegr, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd yr anrhydedd yn “ysbrydoli” cantorion y dyfodol.
Mae’r Cymro Cymraeg o Bant Glas ger Caernarfon wedi’i anrhydeddu am ei gyfraniad i’r byd cerddorol.
Daeth i amlygrwydd fel canwr ar lwyfan yr Eisteddfod cyn mynd ymlaen i fod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y byd canu opera.
Ymhlith y gwobrau mae e wedi’u hennill ar hyd y blynyddoedd mae Grammy a Brit clasurol.
Derbyniodd CBE yn 2003 am ei gyfraniad i fyd yr opera, cyn derbyn Medal Gerddoriaeth y Frenhines dair blynedd yn ddiweddarach.
‘Ysbrydoli’
Dywedodd y canwr ei fod yn disgwyl tocynnau rygbi “ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref” pan gafodd y llythyr yn y post yn dweud wrtho ei fod e wedi cael ei anrhydeddu.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd yr anrhydedd yn ysbrydoli cantorion y dyfodol, fel y cafodd yntau ei ysbrydoli gan Syr Geraint Evans.
“Dw i’n teimlo nawr fod cael eich urddo’n farchog yn rhoi ysgogiad arall i chi weithio’n fwy diflino gyda’r sefydliad wnes i gychwyn, mae angen i mi weithio mwy efo hwnnw.”
Ychwanegodd y byddai’r ‘Syr’ yn “rhoi mwy o bwys ar helpu”.
“Mi wnes i sbïo ar Syr Geraint Evans a meddwl fod Syr Geraint wedi palu’r ffordd ymlaen i’r genhedlaeth nesaf o gantorion – a’r un fath yn rhyngwladol – ac felly gobeithio y bydd cantorion ifainc yn gweld hyn efo fi hefyd – y medra i ei gario fo fel y gwnaeth o am 23 o flynyddoedd, efallai mwy.”
Mae Bryn Terfel wedi dyweddïo a’r delynores Hannah Stone, fu’n delynores Tywysog Cymru yn y gorffennol, ac maen nhw’n disgwyl eu plentyn cyntaf yn y gwanwyn.
Ymateb cymysg
Ymateb cymysg a gafwyd i’r anrhydedd, gyda Dafydd Iwan yn cwestiynu “hongian yr Ymerodraeth Brydeinig a’r Cwîn am eu gyddfau”.
Mae Terfel a Coleman yn haeddu pob clod. Ond ydi hongian yr Ymerodraeth Brydeinig a’r Cwin am eu gyddfau yn eu gneud fymryn yn well? #siom
— Dafydd Iwan (@dafyddiwan) December 30, 2016
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod Bryn Terfel yn “ysbrydoliaeth ac mae ei gerddoriaeth yn dod â chymaint o fwynhad i gynifer o bobol o amgylch y byd”.
Llongyfarchiadau wrth bawb yn Harlequin i @Bryn_Terfel wrth iddo gael ei wneud yn farchog yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd #Syr pic.twitter.com/9SwUJNH0gn
— Harlequin (@harlequinA_M) December 31, 2016