(llun o wefan y Gwasanaeth Iechyd)
Mae 83% o bobl rhwng 40 a 60 oed yn Lloegr naill ai’n yfed gormod, yn pwyso gormod, neu heb fod yn gwneud digon o ymarfer corff.

Dyna ddaw i’r amlwg mewn arolwg cynhwysfawr gan y corff sy’n gyfrifol am hybu iechyd cyhoeddus yn Lloegr.

Gyda 77% o ddynion a 63% o ferched y grŵp oedran naill ai dros eu pwysau neu’n ordew, mae cyfradd gordewdra wedi cynyddu 16% dros y ddau ddegawd diwethaf.

Mae clefyd siwgr hefyd wedi dyblu yn y grŵp oedran yma dros yr un cyfnod.

Mae’r corff, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, yn annog oedolion i gymryd rhan mewn holiadur iechyd a all dynnu eu sylw at broblemau a lle gellir gwella arferion.

“Mae bywydau prysur a swyddi desg yn ei gwneud hi’n anodd i fyw’n iach,” meddai’r Athro Syr Muir Gray o Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

“A’r rheini sy’n ganol oed sy’n dioddef y canlyniadau waethaf, wrth i’w hiechyd achosi pryderon gwaeth nag erioed.”