Rhaid i’r prif weinidog ganiatáu pleidlais yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ogystal â Thŷ’r Cyffredin ar Brexit yn ôl ymgyrchydd amlwg.

Dywed Gina Miller, a gyflwynodd achos llwyddiannus yn erbyn y Llywodraeth yn yr Uchel Lys, fod angen Deddf Seneddol ar fater mor bwysig â gweithredu Erthygl 50 er mwyn sicrhau dadl yn y ddau dŷ.

Dywedodd na ddylai Theresa May geisio osgoi Tŷ’r Arglwyddi os bydd y Goruchaf Lys yn gwrthod apêl y Llywodraeth yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys.

Mewn cyfweliad gyda’r Daily Telegraph, dywed Gina Miller:

“Mae angen trafodaeth briodol yn y ddau dŷ a Deddf Seneddol. Ni fyddai cynnig yn cael ei ddadlau yn y ddau dŷ.”

Gallai gweithredu fel hyn achosi trafferth i Theresa May gan nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae disgwyl i’r Goruchaf Lys gyhoeddi ei ddyfarniad ar Erthygl 50 yn gynnar y mis nesaf. Gallai unrhyw symudiad cyfreithiol ar ôl hynny effeithio ar gynlluniau Theresa May i gychwyn proses Brexit yn ffurfiol cyn diwedd mis Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth y byddan nhw’n ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys pan gaiff ei gyhoeddi.