Liz Smith yn derbyn un o Wobrau Comedi Prydain yn 2007 (Yui Mok Gwifren PA)
Mae Liz Smith, un o sêr y gyfres gomedi The Royle Family, wedi marw.
Fe ddaeth cyhoeddiad gan ei theulu’n dweud bod yr actores wedi marw’n dawel noswyl Nadolig.
Roedd yn 95 oed ac wedi ymddeol o actio yn 2009 ar ôl diodde’ sawl strôc.
Dechrau’n hwyr
Dim ond yn ei 50au y dechreuodd Betty Greadle o Scunthorpe actio’n broffesiynol dan yr enw Liz Smith ond fe ddaeth yn enwog am gyfres o bortreadau o gymeriadau lliwgar.
Fe gafodd wobr BAFTA am ei rôl gynorthwyol yn y ffilm A Private Function cyn dod yn wirioneddol enwog wrth actio’r fam-gu, Nana, yn The Royle Family.
Fe gafodd wobr yr Actores Deledu orau yng Ngwobrau Comedi Prydain yn 2007 am ei gwaith yn y rhaglen yn dangos marwolaeth Nana ac roedd y rhifyn wedi bod ar y teledu eto cyn y Nadolig eleni.
Nifer o golledion
Roedd awdures The Royle Family, Caroline Aherne, hefyd wedi marw ynghynt eleni – un o nifer fawr o golledion o fyd adloniant ar draws y byd.
Mae nifer o gyd-actorion wedi talu teyrngedau i Liz Smith ar wefannau cymdeithasol, gan ganmol ei doniolwch a chynesrwydd ei chymeriad.