Mae cynllun newydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw â’r bwriad o ddenu graddedigion i fod yn swyddogion carchar.

Bydd y rhaglen fydd yn gweld cyfranogwyr yn cael eu talu i weithio ar y cyd â staff carchardai, yn para am ddwy flynedd ac yn arwain at radd meistr.

Mae’r rhaglen wedi ei lansio gan elusen annibynnol Unlocked a’i chefnogi gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Liz Truss.

Cafodd y syniad o sefydlu prosiect o’i fath ei amlinellu yn wreiddiol gan ragflaenydd Liz Truss, Michael Gove.

Mae lansiad y cynllun newydd yn dilyn cyfnod o aflonyddwch yng ngharchardai yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys reiat yng ngharchar ym Mirmingham.