Y Frenhines
Fe fydd y Frenhines yn rhoi’r gorau i fod yn noddwr dros ugain o sefydliadau cenedlaethol ar ddiwedd y flwyddyn.

Yn dilyn pen-blwydd y Frenhines yn 90  oed ym mis Awst, mae’r penderfyniad yn dilyn ôl troed Dug Caeredin a oedd hefyd wedi rhoi’r gorau i fod yn noddwr sawl sefydliad pan drodd yn 90 yn 2011.

Bydd y Frenhines yn parhau i gefnogi dros 600 o sefydliadau ac fe fydd y cyfrifoldebau yn cael eu trosglwyddo i aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol.

Ymhlith y sefydliadau na fydd y Frenhines yn eu noddi bellach mae Undeb Rygbi Cymru.