Tudur Owen Llun: BBC
Mae Tudur Owen yn galw am ragor o ddychan ar gyrff fel y BBC, S4C a’r cyfryngau yn ogystal â’r Cynulliad.
Bydd y digrifwr poblogaidd o Fôn yn efelychu dychanwr mawr y BBC, Charlie Brooker, ac yn cyflwyno dwy raglen Nadoligaidd a fydd yn sylwebu’n grafog ar yr hyn a ddigwyddodd yn 2016 trwy gyfrwng clipiau a lluniau o’r archif newyddion. Bydd y testunau dan sylw yn cynnwys Brexit, ethol Trump, Etholiad y Cynulliad a’r Ewros.
Mae gweithio ym myd comedi dychan yn brofiad newydd iddo ond mae’n dweud bod dirfawr angen dychan arnon ni fel Cymry.
‘Her enfawr’
“Dyma gyfres newydd mewn cymaint o wahanol ffyrdd a gan fod creu comedi dychan yn brofiad hollol newydd i fi, roedd yn her enfawr,” meddai Tudur Owen, sydd â rhaglen ar bob prynhawn Gwener a bore Sadwrn ar Radio Cymru.
“Dydan ni ddim yn gwneud lot o ddychan yma yng Nghymru. I mi, mae nifer fawr o sefydliadau ac unigolion efo pŵer neu ddylanwad yn cael rhwydd hynt i weithredu heb unrhyw sylw bron: dw i’n sôn am y Cynulliad, hyd yn oed S4C a’r BBC a’n cyfryngau ni.
“Dw i’n meddwl bod unrhyw gymdeithas iach yn medru chwerthin am ei phen ei hunan, a hefyd yn medru defnyddio hiwmor a dychan i fedru gofyn cwestiynau weithiau.
Mae Tudur Owen wedi cyd-sgrifennu’r ddwy raglen gyda Chymro a Chymraes sy’n brofiadol iawn yn gweithio ym myd dychan a chomedi Saesneg. Mae Sian Harries – gwraig y digrifwr Rhod Gilbert – wedi gweithio efo rhai o ddigrifwyr mawr Prydain, a Gareth Gwynn yn sgrifennu ar gyfer The Now Show a The News Quiz ar gyfer BBC Radio 4.
Fe fydd actorion fel Rhodri John, Sara Gregory a Carys Eleri hefyd ar y rhaglenni yn actio mewn sgetsys tafod-yn-y-boch.
‘Digwyddiadau enfawr’
“Roedd yn bwysig ein bod ni’n rhoi sylw teilwng i Gymru ond fedrwn ni ddim osgoi’r digwyddiadau enfawr yma oedd yn digwydd ar lwyfan rhyngwladol a Phrydeinig ‘chwaith,” meddai Tudur Owen. “Rydan ni’n sôn am bethau difrifol a phethau mawr ond roedd rhaid eu cyflwyno mewn ffordd ddoniol, ddychanol.
“Mae trio cadw’r balans o gael hwyl a thrin pethau mwy trwm yn her. Gobeithio na fydd stori fawr yn digwydd rhwng rŵan a dyddiad darlledu’r rhaglen. Dyna’r drafferth efo gwneud rhywbeth dychanol cyfoes.”
Bydd O’r Diwedd: 2016 Am Flwyddyn! ar S4C noswyl Nadolig, Sadwrn Rhagfyr 24, am 10pm a nos Galan, Sadwrn Rhagfyr 31, 9pm