Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Fe fydd pwysau ar Theresa May i ddatgelu rhagor o fanylion am ei chynlluniau ar gyfer Brexit pan fydd yn mynd gerbron panel o Aelodau Seneddol heddiw.

Fe fydd y Prif Weinidog yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf gerbron y Pwyllgor Cyswllt yn dilyn beirniadaeth gan rai ASau am y diffyg gwybodaeth ynglŷn â safiad y Llywodraeth cyn iddi ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd mis Mawrth.

Yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun, dywedodd Theresa May ei bod wedi gwneud addewid i geisio sicrhau cytundeb buan ynglyn a hawliau dinasyddion yr UE sy’n byw yn y Deyrnas Unedig, ar ôl iddi gael ei gadael allan o drafodaethau ymhlith arweinwyr eraill yn y Cyngor Ewropeaidd wythnos ddiwethaf.