Ankara yn Nhwrci
Mae’r heddlu wedi arestio dyn a oedd wedi tanio ergydion y tu allan i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Ankara, oriau’n unig ar ôl i lysgennad Rwsia yn Nhwrci gael ei saethu’n farw.
Yn ôl adroddiadau roedd y dyn wedi cuddio’r gwn yn ei got cyn tanio tua wyth o ergydion yn gynnar ddydd Mawrth. Cafodd ei arestio gan swyddogion diogelwch. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Daeth y digwyddiad oriau’n unig ar ôl i blismon gyda gwasanaeth heddlu Twrci saethu llysgennad Rwsia Andrei Karlov o flaen cynulleidfa mewn oriel gelf yn Ankara.
Roedd Mevlut Mert Altintas, 22, wedi gweiddi sloganau’n ymwneud a rhyfel Syria cyn iddo gael ei saethu’n farw gan yr heddlu.
Mae llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ar draws y ffordd i’r oriel gelf lle cafodd Andrei Karlov ei ladd. Nid yw’n glir a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.
Mae arweinwyr Twrci a Rwsia wedi dweud bod yr ymosodiad yn ymgais i ddisodli ymdrechion i wella’r berthynas rhwng y ddwy wlad.
Daeth y digwyddiad yn dilyn dyddiau o brotestiadau yn Nhwrci gan bobl sy’n gwrthwynebu cefnogaeth Rwsia i Arlywydd Syria, Bashar Assad, a rôl Rwsia yn yr ymosodiadau ar Aleppo, dinas fwyaf Syria.