Llun: PA
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder yn gwneud datganiad yn y Senedd heddiw ynglŷn â’r terfysg yng ngharchar Birmingham nos Wener.
Roedd cannoedd o garcharorion ynghlwm a’r terfysg am 12 awr nos Wener, 16 Rhagfyr mewn pedair adain o’r carchar.
Bu’n rhaid galw swyddogion diogelwch arbennig i’r carchar i geisio adfer trefn ar ôl i’r ffyrdd o amgylch yr adeilad gael eu cau.
Mae disgwyl i Liz Truss annerch Aelodau Seneddol ddydd Llun ar ol i gadeirydd y Bwrdd Parôl rybuddio bod angen mynd i’r afael a gorboblogi mewn carchardai er mwyn osgoi rhagor o derfysgoedd.
Mae ’na rybudd hefyd y gallai’r trais ledaenu i garchardai eraill ar ôl i 240 o droseddwyr gael eu trosglwyddo o Firmingham.