Aleppo yn Syria Llun: PA
Mae deg o fysys yn cludo dinasyddion o ddau bentref Shiaidd sydd ym meddiant gwrthryfelwyr yng ngogledd Syria, ar eu ffordd i ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan y llywodraeth, yn ôl adroddiadau.

Mae’n rhan o amodau’r cadoediad sy’n golygu bod y gwrthryfelwyr sy’n weddill a dinasyddion yn gallu gadael pentrefi Foua a Kfarya yn ninas Aleppo.

Yn ôl adroddiadau roedd y bysys wedi gadael Foua a Kfarya ddydd Llun. Mae disgwyl i 2,000 o bobl sy’n wael neu wedi’u hanafu, adael y pentrefi.

Daw’r datblygiadau diweddaraf ar ôl i filwriaethwyr losgi chwe bws oedd wedi eu hanfon i symud y bobl o’r pentrefi ddoe.

Yn y cyfamser mae disgwyl i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig bleidleisio heddiw ynglŷn â chynnig i anfon 100 o staff y Cenhedloedd Unedig i ddwyrain Aleppo ar frys i oruchwylio’r gwaith o symud dinasyddion a gwrthryfelwyr.

Yn ôl llysgennad yr Unol Daleithiau i’r Cenhedloedd Unedig Samantha Power, mae adroddiadau bod “pobl yn cael eu cymryd oddi ar fysys ac yn diflannu, un ai i’w harteithio neu eu lladd.”

Dywedodd y byddai anfon gweithwyr y Cenhedloedd Unedig i oruchwylio’r sefyllfa  yn “atal rhai o’r erchyllterau gwaethaf.”