Mae Llywodraeth Prydain yn ystyried gorfodi pob gwas sifil i dyngu llw i werthoedd Prydeinig, yn ôl Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, Sajid Javid.

Byddai’n rhaid i swyddogion etholedig, gweision sifil a gweithwyr cyngor dyngu’r llw.

Cafodd y syniad ei awgrymu mewn adroddiad ar lyniad cymdeithasol gan y Fonesig Louise Casey, sydd yn rhybuddio nad yw rhai elfennau’r gymdeithas yn derbyn gwerthoedd Prydeinig megis goddefgarwch.

Mae hi’n dadlau ei bod hi’n amhosib chwarae rhan bwysig yn y gymdeithas heb dderbyn gwerthoedd sylfaenol megis democratiaeth a chydraddoldeb.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywed Sajid Javid: “Os ydyn ni am herio’r fath agweddau, rhaid i arweinwyr sifil a gwleidyddol arwain drwy esiampl.

“Allwn ni ddim disgwyl i newydd-ddyfodiaid amgyffred gwerthoedd Prydeinig os nad yw’r rheiny ohonom sydd eisoes yma’n gwneud hynny ein hunain, a byddai’r fath lw yn mynd ymhell wrth sicrhau bod hynny’n digwydd.”

Ond mae e wedi wfftio mai ymgais yw hyn i greu “hunaniaeth unffurf”.

Mae disgwyl y byddai’r llw yn cynnwys geiriau megis ‘goddefgarwch’, ‘rhyddid barn’, ‘rhyddid crefyddol’, ‘credu mewn cydraddoldeb, democratiaeth a’r broses ddemocrataidd’ a ‘pharchu’r gyfraith’.

Mae Sajid Javid hefyd yn awyddus i sicrhau bod mewnfudwyr yn tyngu llw.

Mae adroddiad y Fonesig Louise Casey yn rhybuddio bod gwledydd Prydain yn dod yn fwy rhanedig po fwyaf amrywiol ydyw, gan ddweud bod menywod yn arbennig yn dioddef yn enw crefydd a diwylliant.

Ac mae’n cyfaddef y byddai rhannau o’r llw yn anodd i gymunedau Mwslimaidd eu derbyn, ond fod rhaid derbyn problemau “anghysurus”.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid dysgu gwerthoedd Prydeinig mewn ysgolion.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y cyn-Brif Weinidog David Cameron y llynedd fel rhan o strategaeth i fynd i’r afael ag eithafiaeth Foslemaidd.