Fe fydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn pleidleisio ddydd Sul i benderfynu a fyddan nhw’n anfon swyddogion i ddinas Aleppo yn Syria.

Mae Ffrainc yn awyddus i fonitro’r sefyllfa ac anfon swyddogion i adrodd yn ôl ar sefyllfa’r bobol gyffredin yn y wlad sy’n dal i aros i gael eu hachub.

Daeth cynlluniau i achub nifer o bobol i ben yn aflwyddiannus ddydd Gwener, ond mae lle i gredu bod cynllun newydd wedi cael ei gytuno y bore yma.

Mae pryder ar hyn o bryd y gallai Rwsia wrthod cynnig Ffrainc oherwydd eu hagosatrwydd at Arlywydd Syria, Bashar Assad.

Maen nhw wedi atal chwe chynnig ar Syria ers 2011.

Mae cynnig y Cyngor Diogelwch yn galw ar yr Ysgrifennydd Cyffredinol Ban Ki-moon i anfon swyddogion sydd eisoes yn Syria i fonitro’r sefyllfa ac i adrodd yn ôl wrth y cyngor o fewn pum niwrnod.

Mae’r cynnig hefyd yn galw am warchod meddygon, ysbytai ac ambiwlansys yn dilyn adroddiadau am gyrchoedd bomio diweddar yn eu herbyn yn Aleppo.