(Llun: PA)
Mae’r awdurdodau wedi llwyddo i adfer trefn mewn carchar yn Birmingham yn dilyn terfysg sy’n cael ei ddisgrifio fel y gwaethaf ers terfysg Strangeways yn 1990.
Roedd cannoedd o garcharorion ynghlwm wrth y terfysg am 12 awr neithiwr mewn pedair adain o’r carchar.
Roedd adroddiadau bod carcharorion wedi cynnau tân ar risiau’r carchar, torri cadwyni diogelwch a dinistrio cofnodion papur.
Bu’n rhaid galw swyddogion diogelwch arbennig i’r carchar i geisio adfer trefn ar ôl i’r ffyrdd o amgylch yr adeilad gael eu cau.
Mae lle i gredu bod un carcharor wedi torri ei ên a soced ei lygad.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Swyddogion Carchardai fod 30 aelod o staff wedi gadael y carchar dros yr wythnosau diwethaf.
Fe gyhuddodd Lywodraeth Prydain o dan-ariannu carchardai, tra bod Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, Liz Truss wedi addo cynnal ymchwiliad.
Ar 6 Tachwedd, roedd terfysg tebyg mewn carchar yn Bedford, lle roedd carcharorion wedi gollwng dŵr ar lwybrau.
Ar 29 Hydref, fe fu’n rhaid tawelu carcharorion yn Lewes yn Nwyrain Swydd Sussex.
Mae llefarydd cyfiawnder y Blaid Lafur, Richard Burgon wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o fethu â rheoli’r sefyllfa mewn carchardai.