Bydd yn rhaid i bob plismon gael cymwysterau lefel gradd erbyn 2020 yn dilyn newidiadau i’r system recriwtio.
Bydd prentisiaeth â chyflog tair blynedd o hyd, yn cael ei gynnig fel un opsiwn i bobl fydd eisiau ymuno â’r heddlu.
Mae opsiynau eraill yn cynnwys cwrs ôl-radd chwech mis fydd hefyd wedi ei ariannu gan yr heddlu a gradd mewn plismona byddai heb ei ariannu.
Mae’r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus oedd yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd a heddweision.
Ar hyn o bryd, dim ond ychydig dros draean (38%) o blismyn sydd gyda chymhwyster lefel gradd.
Moderneiddio
Pwrpas y newid yw cyfrannu at foderneiddiad y gwasanaeth ac i sicrhau bod swyddogion yr heddlu ym Mhrydain yn meddu ar y sgiliau cywir.
Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg Blismona, y Prif Gwnstabl Alex Marshall, “Dy’n ni ddim yn credu bod buddsoddi wedi bod ym mhlismona o ran datblygiad proffesiynol a dyma un o’r ffyrdd o wneud hyn.”