Llun: PA
Mae absenoldeb mewn ysgolion cynradd wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf yn ôl ystadegau swyddogol a gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Yn ôl yr ystadegau mae’r gyfradd ar gyfer absenoldeb yn gyffredinol yn 2015/16 wedi aros o gwmpas 5.1% ac mae’r ffigurau wedi bod yn gostwng ers 2006/07.

Er mai cwymp sydd wedi bod ar y cyfan mae’r ystadegau yn dangos bod cynnydd wedi bod yng nghanran y disgyblion a oedd yn absennol yn gyson mewn ysgolion cynradd rhwng 2015 a 2016.

Wrth ymateb i’r ystadegau dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, “Er gwaetha’r gwelliant rydyn ni wedi’i weld, allwn ni ddim â bod yn rhy fodlon â’n hunain a byddwn yn parhau i gymryd camau i wella presenoldeb yn ein hysgolion.”

Absenoldebau heb ganiatâd

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod cyfraddau absenoldeb heb ganiatad disgyblion o oedran ysgol wedi aros yn 1.8% rhwng 2015 a 2016.

Mae’r dystiolaeth yma yn groes i gyhuddiad y Blaid Geidwadol Gymreig ar ddechrau Rhagfyr bod absenoldebau heb ganiatâd ar gynnydd.