Mae cyrff dynes a bachgen saith oed wedi cael eu darganfod mewn tŷ yn Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn  The Fairway, Ruislip yng ngorllewin Llundain tua 10.50yb ddydd Mercher oherwydd pryderon am eu lles.

Cafwyd hyd i gorff dynes yn ei 30au a bachgen ifanc yn y tŷ, meddai’r Heddlu Metropolitan.

Nid ydyn nhw wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol hyd yn hyn ond mae’r heddlu’n credu mai Sinead Higgins a Oisin O’Driscoll yw’r ddau ac nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â’u marwolaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn ceisio darganfod a oedd y ddau yn perthyn i’w gilydd ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.

Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal ddydd Gwener.